O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


cysylltu

Safle Owain OwainY Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain (1929-1993)

CROESO i safle'r llenor a'r gwleidydd Owain Owain!

NEWYDD:
Fersiwn wreiddiol Haf 1963 o fathodyn
Cymdeithas yr Iaith

Bathodyn gwreiddiol y Gymdeithas gan Owain Owain

'Proffwyd tanbaid y deffroad iaith a chwip Prydeindod a Seisnigrwydd', oedd disgrifid Emyr LLew o'r gwr hwn. Yn enedigol o Bwllheli, disgrifiwyd ef hefyd fel tad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Tafod y Ddraig... Cyfoeth yr Amrywiaeth... Pensaer y syniad o Fro Gymraeg...
Gwyddonydd Niwclear Gwrthniwclear... 'Proffwyd tanbaid'... Bardd... Arlunydd...

Sut mae cychwyn disgrifio un o sgwennwyr mwyaf toreithiog ac unigryw yr Ugeinfed Ganrif?

Dewisiwch o'r fwydlen ar y chwith i weld ychydig am fywyd a gwaith un o arloeswyr brwydrau'r Gymraeg.

Fe welwch yma, ar safle Owain Owain, gopiau o'r Tafod y Ddraig cynnar ynghyd a channoedd o lythyrau, erthyglau a storiau byrion y llenor a'r bardd a anwybyddwyd gan y sefydliad. Un o gas bethau O.O. oedd partion jin-a-tonics a sylw. Y burum tawel, gweithgar yn creu bara.

'Cyn bod sôn am Gymdeithas yr iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig' medd Maldwyn Lewis. Cafwyd cyfarfod lansio (Awst 1962) a phrotest yn Aberystwyth, ac yna dim. Dim, namyn un person ym Mangor a ddechreuodd greu rhwydwaith o gelloedd led-led Cymru gan ddechrau gyda Bangor, ac aeth ati 'fel mudiad ynddo'i hun' i 'ddyfeisio ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad' (ebe Gwilym Tudur) ac i uno'r mudiad yn genedlaethol drwy gyfrwng ei gylchgrawn newydd 'Tafod y Ddraig'. Ar yr adeg yma, chwedl Geraint Jones (Twm), Owain Owain oedd Cymdeithas yr Iaith.

Yn ôl Dafydd Iwan (Rhagfyr 2007): 'Ym mherson Owain Owain y cafodd ein cenedl un o'n symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol.'

Yn fyr:

Y Tafod
Dylunydd bathodyn gwreiddiol y gymdeithas

  • Yn 1965 newidiodd ei enw (a chyfenw'r teulu) o Owen i Owain. Dilynwyd ef gan lawer o Gymry.

  • Dylanwadodd Owain hefyd ar yr Athro J R Jones, a'i lyfr 'Prydeindod' drwy ei lythyrau a'i ysgrifau.

Llythyrau Yr Athro J R Jones

Barddoniaeth, o Gymru (Cymru) llenyddiaeth Cymu, Cymraeg yn iaith y llenor o Bwllheli (Pwllheli). Llenor unigryw a gwyddonydd Cymraeg ei iath. Llenyddiaeth amrywiol ei thema. Barddoniaeth oedolion a phlant - Cymraeg yn unig; llenyddiaeth Cymru.