O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Y Fro Gymraeg

'Lladmerydd Y Fro Gymraeg... proffwyd tanbaid y deffroad iaith yng Nghymru.' Emyr Llew, Y Faner Newydd, Rhifyn 35, 2005.

Yn Rhifyn 4 o Dafod y Ddraig ( Ionawr 1964) cyhoeddodd Owain Owain fap a luniodd, yn dwyn y teitl: 'Y Fro Gymraeg'; dyma enedigaeth y term pwysig hwn.

Ychydig wedyn, mewn ysgrif ("ONI ENILLIR Y FRO GYMRAEG. . . . ") yn Y Cymro, 12 Tachwedd, 1964, rhoddir  ffurf ar y syniad o ganolbwyntio'r frwydr ar yr ardaloedd Cymraeg:

'Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.'

'Y mae ennill nifer sylweddol o bleidleisiau seneddol, gan hynny, yn golygu aberthu ein cenedligrwydd, oherwydd i'r mwyafrif o'n pobl fod yn hollol amddifad o unrhyw ymdeimlad o genedligrwydd. A hyd yn oed petai ennill rhyddid Cymru yn y modd hwn yn rhywbeth amgenach na breuddwyd gwrach, pa fath Gymru a fyddai'r Gymru Rydd a greid gan bleidleisiau'r anghymreig?

'Os "bygwth y drefn" yw'r amcan, onid yw bygythiad cant o Gymry blaenllaw yn mynnu defnyddio'r iaith yn ddi-ildio ac yn ddigyfaddawd, ac mewn cyswllt "anghyfansoddiadol", yn weithred wleidyddol bositif a fyddai'n dylanwadu'n gryfach ar Lywodraeth Lloegr na deng mil o bleidleisiau amhersonol?

Dyma yn wir, am y tro cyntaf, ddiffinio'r syniadau a ddaeth yn rhan o faniffesto Mudiad Adfer.

Dywedodd hefyd (Llythyr yn 'Y Faner': Yr Iaith - Arf Gwleidyddol:'

'Achubwn y Fro Gymraeg ac fe achubir Cymru.... Fe ellir achub y Fro Gymraeg  - yn fuan - drwy ddefnyddio'r iaith fel erfyn gwleidyddol.

 

Ym Mehefin 1964 mewn llythyr at Sion Daniel, dywed Owain:

'Credaf fod llwyddiant di-gymrodedd yn y Fro Gymraeg yn bwysicach na lled-lwyddiant yn y Gymru ddaearyddol (di-Gymraeg). Nid wy'n ofni 'Rwritania Gymreig Harri (Harri Pritchard Jones), mae'r Ffrancwyr yn eiddigeddus iawn o Fonaco a'r Almaenwyr o Gantonau Almaenig Yr Yswistir! Os ydym yn argyhoeddiedig o wir werth y "Traddodiad Cymreig", yna gwyddom y byddwn yn llwyddo i ymestyn tiriogaeth y Fro Gymraeg nes cwmpasu Cymru ddaearyddol, maes o law...''