Safle Owain Owain
(1929-1993)
CROESO i safle'r llenor a'r gwleidydd Owain Owain!
NEWYDD:
Fersiwn wreiddiol Haf 1963 o fathodyn
Cymdeithas yr Iaith
'Proffwyd tanbaid y deffroad iaith a chwip Prydeindod a Seisnigrwydd', oedd disgrifid Emyr LLew o'r gwr hwn. Yn enedigol o Bwllheli, disgrifiwyd ef hefyd fel tad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Tafod y Ddraig... Cyfoeth yr Amrywiaeth... Pensaer y syniad o Fro Gymraeg...
Gwyddonydd Niwclear Gwrthniwclear... 'Proffwyd tanbaid'... Bardd... Arlunydd...
Sut mae cychwyn disgrifio un o sgwennwyr mwyaf toreithiog ac unigryw yr Ugeinfed Ganrif?
Dewisiwch o'r fwydlen ar y chwith i weld ychydig am fywyd a gwaith un o arloeswyr brwydrau'r Gymraeg.
Fe welwch yma, ar safle Owain Owain, gopiau o'r Tafod y Ddraig cynnar ynghyd a channoedd o lythyrau, erthyglau a storiau byrion y llenor a'r bardd a anwybyddwyd gan y sefydliad. Un o gas bethau O.O. oedd partion jin-a-tonics a sylw. Y burum tawel, gweithgar yn creu bara.
'Cyn bod sôn am Gymdeithas yr iaith galwodd y gyfres o bamffledi yn Tafod y Ddraig' medd Maldwyn Lewis. Cafwyd cyfarfod lansio (Awst 1962) a phrotest yn Aberystwyth, ac yna dim. Dim, namyn un person ym Mangor a ddechreuodd greu rhwydwaith o gelloedd led-led Cymru gan ddechrau gyda Bangor, ac aeth ati 'fel mudiad ynddo'i hun' i 'ddyfeisio ymgyrchoedd newydd ar ran y mudiad' (ebe Gwilym Tudur) ac i uno'r mudiad yn genedlaethol drwy gyfrwng ei gylchgrawn newydd 'Tafod y Ddraig'. Ar yr adeg yma, chwedl Geraint Jones (Twm), Owain Owain oedd Cymdeithas yr Iaith.
Yn ôl Dafydd Iwan (Rhagfyr 2007): 'Ym mherson Owain Owain y cafodd ein cenedl un o'n symbylwyr gwleidyddol ymarferol mwyaf allweddol.'
Yn fyr:
- Un o sefdlwyr Cymdeithas yr Iaith; sefydlydd a golygydd cyntaf Tafod y Ddraig
- Llenor a ddiffiniodd, yn Gymraeg, y frwydyr dros 'Gyfoeth yr Amrywiaeth' a 'chadwraeth iaith'
ac yn erbyn 'y llwydni llwyd' a'r 'Ddelwedd Fawr'. - Rhoddodd ffurf a siap i frwydrau Cymdeithas yr Iaith drwy ei
Ysgrifau a'i lythyrau ac yn ymarferol drwy greu'r syniad o 'gelloedd'. - Awdur bron i ugain o lyfrau megis Y Dydd Olaf, Amryw DDarnau a Bara Brith
a channoedd o erthyglau, storiau byrion a cherddi. - Pensaer y syniad o 'Fro Gymraeg': 'Oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir...'
- Gwyddonydd niwclear a fathodd nifer o dermau megis 'Gwennol y Gofod',
'Gwledydd Prydain' yn hytrach na 'Phrydain'; colofnydd 'Nodion Gwyddonol' yn Y Cymro.

Dylunydd bathodyn gwreiddiol y gymdeithas
-
Yn 1965 newidiodd ei enw (a chyfenw'r teulu) o Owen i Owain. Dilynwyd ef gan lawer o Gymry.
-
Dylanwadodd Owain hefyd ar yr Athro J R Jones, a'i lyfr 'Prydeindod' drwy ei lythyrau a'i ysgrifau.
Barddoniaeth, o Gymru (Cymru) llenyddiaeth Cymu, Cymraeg yn iaith y llenor o Bwllheli (Pwllheli). Llenor unigryw a gwyddonydd Cymraeg ei iath. Llenyddiaeth amrywiol ei thema. Barddoniaeth oedolion a phlant - Cymraeg yn unig; llenyddiaeth Cymru.




