O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Nodion Gwyddonol    Camp i Chi!   Y Gofod   Gweld a Gwneud    Ysgrifau a Ballu    I Gosi'r Ymennydd              

Owain Owain y Gwyddonydd

 

'Gwyddonydd a estynnodd ffiniau'r iaith' oedd disgrifiad Emyr Llew ohono yn Y Faner Newydd.

Hydref 1948: Coleg y Gogledd (Prifysgol Cymru, Bangor). Gradd Dosbarth Cyntaf mewn cemeg a ffiseg.

Gweithiodd yn Atomfa Windscale, (Sellafield yn ddiweddarach), Cumberland fel gwyddonydd niwclear; gan buro pliwtoniwm ar gyfer creu bomiau niwclear; hyn oedd pwrpas yr atomfa (y cyntaf drwy Wledydd Prydain), gyda thrydan yn dod yn yn sgil hyn.

Er iddo arwyddo'r Papurau Cyfrinachol Llywodraeth Lloegr 7 gwaith yn ystod yr amser hwn, rhagwelodd effaith negyddol, genynol i'r gwastraff niwclear a thorrodd y rheolau Cyfrinachol o leiaf 7 gwaith yn rhybuddio pobol o'r peryglon yn y wasg Gymraeg. Darllener hefyd ei storiau byrion Pum Daffodil a Y Pysgodyn Arian.

Trafododd lawer o bynciau gwyddonol yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Y Cyfrifiadur a'r We Fyd-eang er enghraifft.

Bathodd hefyd lawer o dermau gwyddonol Cymraeg a sgwenodd nofel ffug-wyddonol 'Y Dydd Olaf'.

Fel athro mathemateg yn Nhywyn, lansiwyd cylchgrawn 'Y Gofod' a gafodd sylw gan NASA a'r USSR.