O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Dylanwadu ar Yr Athro J R Jones

Llythyr gan Yr Athro J R Jones yn datgan fod dwy ysgrif gan Owain Owain wedi ei symbylu i sgwenu erthygl i'r Faner a arweiniodd
yn ddiweddarach at ei lyfr 'Prydeindod'.


Sylwer mai  'y Gymru Gymraeg'  a ysgrifennodd yr Athro:  gan mai newydd iawn oedd y term Y Fro Gymraeg iddo ef a phawb arall.

llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain 26 Tachwedd, 1964

Llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain.

"Y mae eich dwy erthygl, "Oni Ennillir y Fro Gymraeg..." a'r un gyfredol yn Y Faner ("Yr Iaith - Arf Gwleidyddol")
wedi bod o ddiddordeb a chysur mawr i mi.

"Credaf fod eich her yn un bwysig dros ben. Ysgrifenais lith ar ol darllen y gyntaf ('Ateg i her Owain Owain').

"Credaf, rhyngom y byddwn wedi rhoi sialens go bwysig i arweinyddiaeth y Blaid."

   
llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain 2 Rhagfyr, 1964

Llythyr yn dweud i'r Faner roi teitl gwahanol ar yr erthygl, fel nad ydyw mwyach yn "amlwg mai
fel parhad i'ch anogaeth chwi y bwriwyd hi."

 (Gol: sylwer ar iaith y penllythyr!!!)

llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain Rhan 2
   
llythyr gan yr Athro J R Jones at Owain Owain 21 Hydref, 1965

"Mae arnaf eisiau diolch yn arbennig iawn i chwi am yr ysgrif 'Y Dystiolaeth Brydeinig' thesis golau, cynaledig a phwysig dros ben. .... Mae'r dadansoddiad yn un  anarferol o bwysig...."

"Bu darllen eich ysgrif yn gysur mawr i mi ac nid lleiaf oblegid yr ategiad cryf sydd ynddi i'm syniadau i fy hun. Yr wyf ar fin cyhoeddi... Prydeindod... ac wedi bod yn teimlo'n bur bryderus ynghylch y fenter...."

"Daeth eich erthygl olau chwi a chalondid mawr."

   
J R Jones erthygl yn ymateb i her Owain Owain Ateg i Her Mr Owain Owain; erthygl gan yr Athro J. R. Jones yn y Faner, Rhagfyr 3ydd, 1964.

'Y mae yn aros, yn gyntaf dir Cymru - eithr yn unig y gweddillion hynny ohono sy'n parhau mewn mesur o briodas organaidd ac o gydymdreiddiad â'r iaith Gymraeg: 'Bro Gymraeg' Mr Owain Owain.'
   
Gweler hefyd Y Faner (28/01/1965) Erthygl gan yr Athro:
'Difrifwch y ddadl hon, fel y pwysleisia Mr Owen Owen , yw ei bod yn gwbwl bosibl i'r boblogaeth sydd ar ddaear 'Wales' gael trefn, a hyd yn oed reolaeth 'ranbarthol,' ar ei bywyd ac ar yr un pryd golli ei bodolaeth...