O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Yr Athronydd Gwrthniwclear

Trodd o fod yn wyddonydd yn Windscale i fod yn llais gwrthniwclear cynnar, unig.
Gwyddonydd niwclear gwrthniwclear oedd Owain Owain.

15 Hydref 1964 Y ddelwedd fawr sy'n llwytho'r awyr â strontiwm naw-deg. Nid yw'r erchyllbethau a esgorir gan wragedd ymhen cenedlaethau yn ddim ond hunllef dychymyg niwrotig sy'n pylu'n ddim yn llewyrch breuddwydion y gwladwriaethau mawr.
Ysgrif yn Y Faner  
   
   
   
   
6.8.69 Nodion Gwyddonol '... pan gofiwn am y croeso brwd a roddodd yr Ynys i ddwy ffynhonnell - Wylfa a Rio Tinto - a fydd yn parhau i wenwyno Môn a'i phlant ymhell ar ôl i bwer yr atom a defnyddgarwch alwminiwm fod mor hen ffasiwn a stof-baraffin a gwlanen goch? etc.

 
27-5-1970 Nodion Gwyddonol

Nodion Gwyddonol gan Owain Owain
'Mae'r term "Cadwraeth" - a'i gyfystyr Saesneg, "Conservation" - yn rhy farwaidd. Bwrlwm bywyd, natur yw natur... Nid rhywbeth sy'n sefyll y tu allan i hyn i gyd yw dyn... ond rhan anochel ac anrhydeddus o'r patrwm cyflawn.

O leiaf - felly y dylai hi fod. Yn anffodus nid felly y mae hi. Bellach, mae dyn yn ystyried ei hun yn endid annibynol, y tu allan i'r patrwm, gyda'r hawl ganddo i newid y patrwm i'w fodloni ei hun.

Gan anghofio, wrth gwrs, fod unrhyw newid yn y patrwm yn gorfodi newid ynddo ef ei hun, sy'n rhan o'r patrwm.

Yr un gwendid sydd wrth wraidd y "pechod" hwn ag sydd wrth wraidd y mwyafrif o'n pechodau - diffyg parch, a'r diffyg parch yn ei gwneud hi'n bosibl i ni ganolbwyntio ar y "cael" heb ystyried y "rhoi". Yr hen, hen stori, wrth gwrs, o roi'r hunan o flaen arall.

Yr "arall" yn nhestun "Cadwraeth Natur" yw'r cenedlaethau sydd i ddod....

Rydym yn rhy barod o'r hanner i dderbyn elw'r presennol heb ystyried colledion y dyfodol.
   
15/12/1971 Nodion Gwyddonol 'Bum yn gweithio yn Windscale (Cumberland am gyfnod byr iawn, rai blynyddoedd yn ôl. Yn ffodus roedd hynny cyn i ddamwain hunllefus 1957 ddigwydd.

'Mae trigolion Gwynedd- eisioes wedi'u melltithio a dwy atomfa hen-ffasiwn, a'r clochlefain hurt am drydedd atomfa i'w glywed unwaith eto...' ayb