O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Nodion Gwyddonol

Cyfres wythnosol o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Y Cymro rhwng 23.4.69  a  22.2.73.

Dyma enghraifft:

Nodion Gwyddonol gan Owain Owain   'Y Chwyldro Plastig' 23/4/1969
   

Yn rhifyn 14, mae Owain yn trafod cyfrifiaduron a'r we fyd-eang - am y tro cyntaf yn y Gymraeg, efallai (23/7/1969):
   
nodion gwyddonol gan Owain Owain  '... y gyfundrefn  o gyfrifyddion ar alw llawer ('multiple access computer systems - neu MACS).... Yn syml, mae MACS yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.'

'Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaerniol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'

Owain Owain yn 1969 yn rhagweld band llydan y We Fyd-eang!!!

'Beth fydd effaith hyn i gyd ar fyd addysg, dyweder yn 2000 O.C.? Yn gyntaf, fe fydd addysgu'r dechneg o ddefnyddio cyfundrefn o gyfrifyddion yn bwysicach - yn llawer pwysicach - na chael plant i gofio rhestri di-bendraw o ffeithiau; y cyfrifydd bellach fydd y "cof".  Yn ail, fe welir doethineb y gogwydd diweddaraf i wneud addysg yn rhywbeth sy'n codi o brofiad, gyda'r disgybl, yn hytrach na'r athro  yn bwynt canolig. Ac yn drydydd fe fydd athrawon y flwyddyn 2000 yn cael eu dyrchafu o fod yn gyflenwyr ffeithiau i fod yn dywyswyr - yn tywys y disgyblion i gyfeiriad y profiadau gwerthfawr a chyfoethog hynny sy'n gyfystyr a gwir addysg.

 

Yn 27-5-1970 dywed yn  'Parchu'r Pridd':

nodion gwyddonol gan Owain Owain 'O leiaf - felly y dylai hi fod. Yn anffodus nid felly y mae hi. Bellach, mae dyn yn ystyried ei hun yn endid annibynol, y tu allan i'r patrwm, gyda'r hawl ganddo i newid y patrwm i'w fodloni ei hun.

Gan anghofio, wrth gwrs, fod unrhyw newid yn y patrwm yn gorfodi newid ynddo ef ei hun, sy'n rhan o'r patrwm.

Yr un gwendid sydd wrth wraidd y "pechod" hwn ag sydd wrth wraidd y mwyafrif o'n pechodau - diffyg parch, a'r diffyg parch yn ei gwneud hi'n bosibl i ni ganolbwyntio ar y "cael" heb ystyried y "rhoi". Yr hen, hen stori, wrth gwrs, o roi'r hunan o flaen arall.

Yr "arall" yn nhestun "Cadwraeth Natur" yw'r cenedlaethau sydd i ddod....

Rydym yn rhy barod o'r hanner i dderbyn elw'r presennol heb ystyried colledion y dyfodol.
   
   

Bwyd Organig!

Yn rhif 16 'Gwinllan Naboth', dywed Owain Owain:

'Ceir mwy a mwy o'r gwenwyn "gwrteithiol" i halogi'r pridd, mwy a mwy o wenwyn trychfilod a chwyn i ddifwyno'r amgylchfyd byw  ac i suro cynghanedd Natur; elw cynyddol tros-dro, gyda'r dyfodol agos yn talu'n ddrud am y llygru, yr erydio a'r rheibio.

 

   
Olwyn Ddwr i gynhyrchu trydan:
Gweler Nodion Gwyddonol Rhif 58 (3-6-1970): 'Troad y Rhod'.
 

Ffrwyno'r Gwynt.
Nodion Gwyddonol 69.

 

Trydedd Atomfa i Ogledd Cymru?

Gweler Nodion Gwyddonol Rhif 67 (5-8-1970). 'Yn enw Duw ac yn enw dyn - yn enw plant ein plant ac yn enw Cymru - gadewch i ni sylweddoli'n gwbwl glir yr hyn sydd ar droed yn ein Gwynedd ni...ac wele'r syniad cwbwl wallgof o ddod a thrydedd atomfa i Wynedd. ... Trwy gydol y gyfres hon o 'Nodion'  ceisiais ddangos o bryd i'w gilydd effeithiau peryglus yr atomfeydd ar yr amgylchfyd, a'r peryglon mwy i'n plant, ynghudd yng nghrombil y melinau satanaidd hyn....'



Effaith ymbelydredd: Nodion Gwyddonol gan Owain Owain, Rhif 72 (9 Medi 1970)

effaith ymbelydredd
 



Nodion Gwyddonol Rhif 93 (3/2/1971)

Iaith y Gwyddonydd. Nodion Gwyddonol  
   
   
   
   
Iaith y Gwyddonydd.
Beth yw tarddiad 'Fferyllydd' ayb.