O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Gweithredu'n Gall

'Yn olaf, a gaf i bwysleisio unwaith eto'r pwysigrwydd o gael gweithgarwch beunyddiol,
anniddorol, diramant, pedestraidd yn enw'r Gymdeithas drwy Gymru benbaladr fel rhagarweiniad
i unrhyw weithgarwch arall (hy protest).' medd Owain yn ei lythyr at Sion Daniel (15 Mehefin, 1964).

Protest Dolgellau (Medi 12ed, 1964)

15 Mehefin 1964: Llythyr Owain Owain at Sion Daniel yn dweud y dylai'r Gymdeithas ddatgysylltu'n llwyr a Phlaid Cymru. Pwysigrwydd y Fro Gymraeg.

29 Mehefin, 1964: Llythyr  gan Harri Web yn holi am brotest Dolgellau.

12 Gorffennaf 1964: Rhan o lythyr John Davies at Owain Owain . C. yr I. G.
yn cytuno ag Owain y dylid gohirio Protest Dolgellau 'tan bod y cyhoedd yn deall beth sydd gyda ni mewn golwg.'

17 Awst 1964: Llythyr gan Gareth Meils at aelodau'r Gymdeithas parthed protest Dolgellau (Medi 12ed).

3 Medi, 1964: Llythyr gan Owain Owain at John Davies parthed protest Dolgellau.

Yn frawychus, yn broffwydol o'r hyn a ddigwyddodd yn Nolgellau dros flwyddyn yn ddiweddarach (27/11/1965) pan drodd 'llanciau'r dref' yn erbyn aelodau'r Gymdeithas.

Gweler hefyd Erthygl Owain Owain ar Rifynnau Cyntaf Tafod y Ddraig. Credai Owain fod yn rhaid i waith caled, diramant ragflaenu unrhyw brotest. Enghraifft o hyn oedd yr holl ffurflenni a gyhoeddai ac a ddosbarthai. Gweler hefyd ei erthygl Gweithredu'n Wleidyddol.

 

Mudiad Di-drais

Un o frwydrau pennaf Owain oedd y frwydr fewol yn y Gymdeithas i'w llywio oddi wrth trais ac ymgyrchoedd a allasai arwain at drais.

Roedd llawer o bwysau allanol hefyd, fel y dengys y llythyr canlynol at Owain Owain (arweinydd Meibion Glyn Dwr!!!)