O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Anfodlonrwydd un aelod gydag arweinyddiaeth cenedlaethol y Gymdeithas (a Phlaid Cymru)

Geraint Jones Twm oedd y cyntaf i fynd i garchar y sais dros y Gymraeg. Cyflwynodd O.O. un o'i lyfrau cyntaf iddo, cymaint oedd ei barch tuag ato.

Llythyr gan "Twm", Geraint Jones at Owain Owain:

"Nid oes waredigaeth o unrhyw fath trwy Plaid Cymru."

"Dy ateb di, mi gredaf, fyddai canolbwyntio ar weithgareddau CYIG.... Gellir dweud, heb seboni,
mai chdi yn unig ydyw CYIG ar hyn o bryd,
hynny yw nad oes neb arall yn cymeryd y  gwaith fel mater o fyw neu farw, ac yn ffordd o fyw.

"Sgrifennais heno at Gareth Miles yn ymddiswyddo'n swyddogol o fod yn aelod o'r Gymdeithas.

   
"Erys un peth wrth gwrs... ffurfio mudiad 'chwyldroadol' cenedlaethol newydd..."