O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Torri'r Llinyn Bogel: llythyr at John Davies

Llythyr gan Owain Owain at John Davies, Bwlchllan: 3 Ionawr, 1965.

"Mae'r byrddau nawr yn glir, a'r caniatad moesol gennym i weithio dros Gymru ar wahan.

"Mae hyn yn rhoi dau ddewis i ni:

1. Gweithio o fewn i Blaid Cymru.

2. Torri pob cysylltiad a Phlaid Cymru ac ymroi i weithgarwch MAWR yn enw C.I.G. - neu arall.

"... rhaid i ni dorri pob cysylltiad a Phlaid Cymru o hyn ymlaen."

"rhaid i'n gweithrediadau fod yn fwy gwleidyddol..."

"(Mae) Gareth Miles a Sion Daniel (ac efallai chwithau)... yn credu y dylai C.I.G. fagu delwedd anwleidyddol er iddi weithredu'n (llechwraidd) wleidyddol. Credaf fod hyn yn gwbwl gyfeiliornus..."

   
"Gobeithiaf y bydd C.I.G. yn datgan yn gwbwl agore mai mudiad gwleidyddol o genedlaetholwyr ydyw....

Gobeithiaf gan hynny y try C.I.G. yn agored wleidyddol yn fuan."