O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Pwy, sut ac ymhle y cafodd y Gymdeithas ei chreu? SYLWER: Mae'r rhan hon ar ganol ei gweithio / ei chreu. Cadwch lygad manwl!

Dyddiad Ffaith Ffynhonell Sylw
       
Awst 1962 Ysgol Haf Plaid Cymru: Pontarddulais:  criw bychan o gangen tref Aberystwyth o Blaid Cymru yn 'galw am ymgyrchu difrifol o blaid yr iaith.' Er enghraifft cyfeiriwyd at wŷs uniaith Saesneg G. Meils. Y cynnig yn dweud y byddai 'gymaint yn fwy effeithiol... pe bai mudiad y tu ôl iddo.'
'Dau gyd-ysgrifennydd i bwyso am wysion llys Cymraeg: Millward a John Davies'.
John Davies, 'Blynyddoedd Cynnar', tud 7 Dim enw; mudiad neu gorff i weithio ar un ymgyrch ydoedd.
       
       
Hydref 1962 'Cynhaliwyd cyfarfod swyddogol cyntaf y mudid newydd pan gyfarfu aelodau o gangen leol Plaid Cymru yn nhafarn y Ceffyl Gwyn yn Aberystwyth... awgrym E G Millward y dylid galw'r mudiad yn 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg'. John Davies, 'Blynyddoedd Cynnar', tud 11 Enwi'r mudiad yn CyIG.
       
  'Ar wahân i ddewis enw, llywydd a phapur, ni chyflawyd llawer o waith yn ystod y pedwar mis cyntaf hynny, a rhaid nodi mai'r ddau ysgrifennydd a'r papur swyddogol oedd yr unig dystiolaeth ddiriaethol o fodolaeth y Gymdeithas tan y brotest enwog ar bont Trefechan...' 'Trwy ddulliau chwyldro...?' Dylan Phyllips (Gwasg Gomer, 1998) Tud 80  
       
  'Nid oedd gan y Gymdeithas yn ôl John Davies, unrhyw drefniadau ffurfiol, dim amcanion pendant a dim arian'. 'Trwy ddulliau chwyldro...?' Dylan Phyllips (Gwasg Gomer, 1998) Tud 80  
       
Ionawr 1963 Llythyr gan Owain Owain 'Iaith a Hunanlywodraeth' Barn  
       
Chwefror 1963 Protest Pont Trefechan 'Trwy ddulliau chwyldro...?' Dylan Phyllips (Gwasg Gomer, 1998) Tud 80  
       
       
1 Mai 1963 Owain Owain yn ffurfio Cell Bangor o 'Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. 21 Mai 63 - y Western Mail yn disgrifio Owain fel 'secretary of the Welsh Language Society.'
Gweler y wefan hon (Creu celloedd ayb) Hyn yn rhoi pwysau ar griw Aberystwyth i greu Cyfansoddiad.
       
       
18, Mai 1963 Cyfarfod Cyffredinol yn Aberystwyth 'er mwyn llunio rhaglen waith a cheisio gosod trefn ar gyfansoddiad y mudiad.' 'Trwy ddulliau chwyldro...?' Dylan Phyllips (Gwasg Gomer, 1998) Tud 80 Gellir dadlau mai dyma gwir ddyddiad sefydlu CyIG. Mewn enw'n unig y bodolodd cyn hyn.
       
Mehefin 3ydd Llythyr gan Owain Owain at Brifathro'r Coleg Normal yn nodi iddo gasglu deiseb o ddeunaw o ddarlithwyr a fynant gael eu siec gyflog drwy gyfrwng y Gymraeg. Llythyr 3/06/1963 Cyflwyno'r ddeiseb a gasglwyd ar Galan Mai 1963.
       
       
Haf 1963 Owain yn llunio bathodyn i'r Gymdeithas. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Copi i'w weld yma. Drafft cyntaf y bathodyn. Elwyn Ioan roddodd y ffurf derfynol arno.
       
       
Medi 1963 Ysgrif 'Llais neu Bleidlais?' O.O. Y Faner 12 - 19 Medi  
       
Hydref 1963 Rhifyn Cyntaf o Dafod y Ddraig Gweler yma