O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Y Gofodwr

Soned Arbrofol.

(Prif broblem y gofodwr - mewn cyswllt personol - yw'r carthion. Gorfodir ef i wisgo clwt-babi - yr un clwt - drwy gydol ei daith.)

Gwych oedd ei arch a'i amdo drud -
gorchest gwyddonwyr ein gwareiddiad clyd;
o edau'r ymennydd y gwëwyd ei wisg,
a metel athrylith oedd deunydd ei blisg.
Clywais ei lais o'r nefolion leoedd -
ei bop-ganiadau a'i orfoledd oer;
gwelais ei luniau o'r lychlyd lynnoedd
a mynyddoedd marw mynwent o loer.
Fe lyncais yn awchus bob sill o'r esboniad -
llowciais ddarluniau'r cyflwynydd sgwâr;
cydgenais orfoledd yn llawn arddeliad;
"Goruchel ogoniant i'r angel gwâr!"

Angel technoleg ar edyn arian-
ynghlwm wrth i glwt i ddaear o glai.

'Mae sglein ar yr arddull, a chymwys iawn yw'r diffyg odli yn y cwpled olaf - adlewyrchiad bwriadus o'r bathos rhyddieithol y disgynnwyd iddo.' medd J Gwyn Griffiths wrth ddyfarnu'r Wobr Gyntaf i'r gerdd yn Eisteddfod Rhydaman, 1970.