O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cymru 1965

Llyn wyt-
llain o ddwr llonydd;
merddwr heb rinwedd bedydd.
Ac yn lleithder dy wely du
ysgerbydau gwyrddion
arwyr "y glendid a fu."

 

Corff wyt -
gwythien o waed glastwr
a pharlys henwr
yn fferu'r cnawd.
Corff llibin ar elor yr oesau
yn aros cnul cloch
ei Arthur dlawd.
Ei rawd -

swyngysgu a huno.

 

A'r llyn?
Lliw rhwd yw Iliw ei ddyfroedd.
A'r corff?
Gwyn ydyw lliw y gwaed.

 

"Bro marwolaeth" ydwyt;
byd o ysbrydion byw -
cynelweid yr ail esgor;

 

Bru y dadeni wyt.

 

Gyhoeddwyd yn Faner, 17 Mehefin, 1965