O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Cerdd Deledu: 'Cerddediad'

anim o draed ar balmant. Cerddediad.

Gwobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor a'r Cylch 1971 gan Gwyn Erfyl a Geraint Stanley Jones. Yn ôl y beirniad: 'Ymgais uchelgeisiol iawn i geisio mynegi pererindod dyn o'i grud i'w fedd. Cyfanwaith lle mae swyddogaeth llais, gair a llun wedi ei weithio allan (sic) yn ofalus a dyfeisgar.... Mae'r gerdd yn gwneud y defnydd llwyraf o'r cyfrwng.'

NODYN GAN OLYGYDD Y WEFAN HON: Ffoniwyd O.O. ychydig wythnosau wedi'r Eisteddfod gan ysgrifenyddes
Gwyn Erfyl gan wahodd O.O. i'w gyfarfod yng Nghaerdydd i wneud rhaglen o'r gerdd ar gyfer y teledu.
Dywedodd O.O. y byddai'n derbyn y gwahoddiad pe bai'r cwmni'n agor stiwdio deledu yng Nghanolbarth neu
Ogledd Cymru (nid oedd stiwdio yn yr Wyddgrug yr adeg honno).

Afraid dweud na ffilmiwyd y gerdd. Ond yn eironig ddigon, agorwyd stiwdios teledu yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, gyda G.E., flynyddoedd wedyn, yn gweithio o'r Wyddgrug!!!

Mae'r gerdd yn dal heb weld golau dydd... tan heddiw! Rhyfedd o fyd.

Nodyn: Defnyddir lluniau o draed a choesau yn unig drwy gydol y gerdd.

PERSON TESTUN LLUN
     
DYN:
yn "athronyddol"
a di-emosiwn
Myfi yw dyn -
dim ond brawddeg o beth.
Fy nechrau a'm diwedd
yw alpha ac omega
y wyddor fyw,
a'm canol
yw'r llythrennau
driphlith-draphlith
a wasgwyd i'r gofod prin
mewn ymgais olygyddol
i ddisgrifio bywyd
mewn geiriau mwys.
Palmant prysur mewn dinas;
traed a choesau yn mynd a
dod.

Cipolwg o draed milwr Ellmynig
yn gwneud y "goose-step"
a chipolwg ar draed plant
mewn iard ysgol - y ddau
yn gymysg a'r olygfa uchod.
     
DYN:
yn "naturiol",
ond gydag
emosiwn.
Dyn ydw i -
ar goll mewn gwyddor feiolegol:
yn rhy bell o'r alpha
i alwar mam;
yn rhy agos i'r omega
i eistedd yn llawn dagrau
ac aros i droeon ffawd
roi trefn, efallai,
ar yr anagram hir.
Traed hen ŵr, gyda ffon,
yn cerdded yn unig;
yna'n aros, ac yn patrymu'r
llwch gyda'i ffon.
     
DYN:
yn wamal,
braidd
Ie - dyn ydw i.
Robert Eurbinc Hughes
oedd fy enw -
yn alpha oed -
baragraffau'n ôl:
Pâr o esgidiau mawr,
taclus. Esgidiau babi,
yna rhai plentyn bach,
yna llanc. Y lluniau
hyn yn ail-ymddangos yn
ysbeidiol, gan amrywio
trefn yr ymddangosiad.
OFFIRIAD:
yn ddwys iawn
"Fe'th fedyddiaf di
yn Robert Eurbinc."
 
     
     
MAM:
yn "siarad babi"
"Be ti'n neud yn fan'na,
Bobi bach?"
 
     
CRWT:
y gath-ar-y-mat Traed plant a choesau
desgiau mewn ysgol
hen ffasiwn.
     
DYN: a'r  
     
CRWT: CI-YN-Y-CAE  
     
DYN: a'r  
     
CRWT: Ji-ceffyl-bach-yn-cario  
     
PLANT "Bob Nico!" "Bob Nico!"
"Bob Nico!" "Bob Nico!"
Y plant yn codi' afreolus
ac yn rhedeg allan.
     
DYN:
yn sych
a'r gêm o Lecsicon
yn dechrau mynd yn rhemp.
 
     
DYN:
gyda
diflastod
'Doedd dim blodeugerdd
cyn y brawddegau cyntaf -
dim ond gardd o glai
a gwely o bridd
yn frith o ffedogau-dail
a seirff diegwyddor
a philistiaid rhonc.
Yno,
rhwng parth a pherth,
y cysgodwyd y rhagymadrodd
      rhyddieithol
i'm tipyn stori:
Olion traed (dyn a dynes)
mewn:
1. paent gwyn ar lawr du
2. tywod
3. concrit gwlyb
4. pridd.
Dal / rhewi yr olaf o'r lluniau.
     
DYNAS 1: "Pwy ?" Traed menywod mewn cylch,
ynghyd â brwsh llawr, mop, bwced ayb.
     
DYNAS 2: "Tewch â deud!"  
     
DYNAS 1: "Naddo 'rioed!"  
     
DYNAS 2: "Wel! Wel!" Carnau gwartheg mewn
marchnad anifeiliaid
     
DYNAS 1: "Ych-a-fi!"  
     
DYNAS 2: "'Fengyl!"  
     
DYN: a'r glêr fflam-gleddog
yn canu:
"Allan! Allan!
Blant afradlon -
a'ch bastad di-deitl
gyda chi!"

Carnau buwch, â tharw'n
uchaf.
     
PLANT: "Bob Nico!" "Bob Nico!" Traed plant, iard ysgol.
     
DYN: "Bob Gwcw!" Esgidiau mawr, taclus.
     
PLANT: "Bob Nico!" "Bob Nico!" Traed plant, iard ysgol.
     
DYN: "Bob Gwcw!" Esgidiau mawr, taclus.
     
DYN:
yn eironig
Ie - myfi yw'r dyn:
yn sgwennu yn yr ardd glai
rhwng seirff a boliau afal -
poen dan fy 'sennau,
a'r cleddyfau fflam
yn dal i gadw'r clêr
yn glir
o ffrwyth y pren.
Traed hen ŵr / ffon /
patrymu'r llwch.
Gwartheg / "goose step" /
olion traed.
     
DYN:
Yn ffug
ddramatig
Myfi yw Mistar Hughes:
"Su'da'chi heddiw,
Mistar Hughes ?"

"Tipyn is na'r angylion,
thanciw,
ond tipyn uwch
nag aderyn to
ar lawr."
Pâr o esgidiau mawr,
taclus.
Carnau gwartheg.
Esgidiau mawr.
     
DYN:
yn "athronyddol"
a di-emosiwn.
Ie - Mistar Hughes.
Unwaith, alpha,
yn llechen ddi-lythyren,
ond erbyn hyn yn dabled
o anllythrennog glai:
dim ond ychydig ogam
yn igam ar ymylon,
a heirogliff neu ddau -
hen dderyn
yn cadw cwmni
â chwilod-tail -
mor ddi-drwch â'r Eifftwyr,
mor ddibwynt â Seth
ar gaead arch.
(Fflach-ddarlun o bâr o
esgidiau mawr, taclus -
yna'n ôl i'r uchod.
     
DYN:
yn fwy
gwamal
Ydy! Mae'r teip
yn dechrau gwisgo,
yr print sans-serif
yn italeiddio,
y gystrawen yn gloffach,
a'r orgraff, bellach,
yn nwylo diawl y wasg.:
"Drwg gennym ddeall
fod Mr R Eurbinc Hughes
yn orweddog
a chystuddiol
mewn hospitol.
Dymunwn unwn
amdo iddo...
Gwaelodion llinellau o
deip yn llenwi'r sgrîn.






Traed gwelyau mewn ward sbyty;
traed nyrsus a chleifion.

Carnau gwartheg.
     
ARWERTHWR: ...da tew pymtheg swllt y scôr
yn fuan iawn."
 
     
OFFEIRIAD: "Fe'th fedyddiaf di ..." Fflachiadau o'r holl luniau,
bron yn rhy gyflym i'w gweld.
     
MAM: "Bobi Bach!"  
     
PLANT: "Nico!"  
     
DYNAS 1: "Mistar Robat Gwcw!"  
     
DYNAS 2: "Mistar Hughes!"  
     
DYN:
yn ffyddiog
Nid yw'n Omega eto.
Sgwennwch
mewn llythrennau breision
mai dyn ydw i o hyd -
rhywle
rhwng yr alpha pell
a'r omega agos,
yn crafangu dros yr atalnodau,
yn gwrthod diflannu i'r sgwariau duon
sy'n britho'r pos.
Traed hen ŵr, gyda ffon,
yn cerdded ochr bryn
anwastad - yn aros weithiau,
ond yn dal i ddringo'n araf.
     
DYN:
yn ffeithiol
Ond fe ddaw,
siwr iawn -
yr omega olaf
a'r atalnod llawn.
Gwaelod ffon yr hen ŵr,
yn unig, yng nghornel cyntedd
y tŷ.
     
DYN:
yn bendant
a chyda pheth
bodlonrwydd.
A phan ddaw,
a'r gyfrol gyntaf yn gyflawn,
cewch ddarllen -
a deall
nad brân
yn troedio'n bygddu
rhwng yr alpha arian
a'r omega aur
oedd lluniwr
y llythrennau llwyd.
Traed ieuanc yn cerdded ar
lawr llyfrgell, yna'r aros.
Pâr o ddwylo plentyn yn
gwthio hen lyfr, trwchus, i'w le
priodol (bwlch ar ei gyfer) ar y silff isaf,
yn ymyl y traed.

Dal / rhewi llun y llyfr yn ei le
ar y silff; fflachiadau 'subliminal'
o'r lluniau eraill.

Palmant prysur mewn dinas;
traed a choesau yn mynd a
dod.

Nol i'r llyfr.
plentyn yn ei dynu allan. Rhewi.