O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Llwydni

(Brith gof o Brave New World, Aldous Huxley)

Gwelaf y bodau llwydion
yn rhengoedd dall -
rhifau talcenni'n unig
yn dangos nad hwn yw'r llall.

Rhifau
yn enwau bedydd
rhif-stroc - rhif-y-fam -
pob arlliw o fod yn wahanol
(ac eithrio mewn rhifau) yn nam.

 

Gwelaf y dynion tila
cyhyrog
yn lledaenu'r llwyd;
perchnogion y rhifau gwrywaidd
a'r disgybledig, gompiwtaidd nwyd.

 

Gwelaf rianedd
difronnau
yn segur fytholi hil;
breninesau etifeddeg perffaith
yn adweithio'n chwil
i olau llachar arian
lloerennau fil.

 

Gwelaf berffeithrwydd baban
mewn grisial clir
gemegol fflasg.
Ni bydd nam -
onid rhifau perffaith
gymynrodd ei fam?

 

Clywaf y Llais:
"Onid un
yw brawdoliaeth dyn?"

Sieryd -
yn ufudd, ymgryma byd.

 

Un Llais.
Un byd.
Un llwydni llwyd.

 

Ond na!
Draw,
tu hwnt i'r trefnusrwydd llwm
wele ddynionach rhydd -
olion rhyw arbraw ffôl
i geiso prisyrfio'r dihirod crwm
fel samplau swlegol.
Onid buddiol i'r Unoliaeth Wych
gael brolio'i chynnydd
yn wyneb rhain?
Pa ddrych
allasai'n well
roi lliw i'r llwyd?

 

Dynionach rhydd
a feiddiodd
(faint yn ôl?)
roi ffydd
mewn pethau bach
petheuach plwyfol, cul,
y Llwydni Mawr.

 

Cyhoeddwyd yn Y Faner, 2 lonawr, 1969