O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Rhen Wilias
(Yn Nhafodiaith Pwllheli)

"Wst ti be", medda Wilias, un bora,
"chei di ddim yn well at y clyw
"
na photeliad o nionod picl
"a slyfan o falwan fyw".

"Tewch a s
ôn, Robat Wilias! Brenshach!
"
Wel - tawn i byth o'r fan!
"Ta malu tail da chi rwan -
"a nhrin i fel hannar-pan?"

"Ar-y-fenad!" medd Robat Wilias,
"Mae o'n fengyl bob gair, neno'r tad!
"Hefo hwnna y mendiais i Wffras
"A Beca J
ôs Bach - chwâr dy dad".
"Ond sud da chi'n neud hefo'r falwan?
"Be goblyn di'r sicrat, da chi?

"Neud twll yn 'i thipyn cragan
"i'r oeliach g
âl rhedag yn ffri,
"a'i ollwng o mewn i'r clustiau -
"diferyn neu ddau bach, neu dri".

"A be da chi'n neu hefo'r be-na?
"O'r nionod?
"Wel dyna fy ffi!"

 

"Oni'n falch fod y dynion yn 'Polo"
medda Wilias un tro wrtha i,
"wedi medru mynd fyny i'r lluad
"a datrys y mysteri".

"Pa ddirgelwch oedd hwnnw, rhen Wilias?
"Be ffindiodd yr hogia - y tri?"

"Ond ffindio'r hen grafiti niwsns -
"a datrys y mysteri".

"Da chi'n siarad fel sglaig sy'n ei dallt hi -
"am seians a'r cwbwl-ot:
"ond sut da chi'n gwbod, rhen Wilias,
"nad rwtsh ydy'r ydi'r joli-lot?"

"Mi dduda i wrtha ti, achan,
"mi dduda
i'n onast reit -
"mi gwelish nw'n fflio'n y rocat
"o ddechra i ddiwedd y ffleit.
"Mi welish
i'r ffilimingiarings
"i gyd ar y sgrin - y ti-fi
"a'r dyn na yn llenwi'r sacha
"hefo lympia o grafiti."

"Wst ti be", medda Wilias un Chwefror,
"'dos na ddim sydd yn w
âth na chrys glân".
"Am be, Robat Wilias, dudwch?
"Chlywish rôd rotshwn beth o'r blân!"

"Ond deud ydwi, achan", medd Wilias,
"Ond deud ydw i, myn diân,
"nad ôs na ddim byd yn fwy afiach
"(mi godith dy wres di yn dân)
"na newid dy grys am un arall
"cyn clywad y gwcw a'i chân".

"Wel be da chi'n neud ar y Sul, ta?

"Mynd i'r capal mewn crys heb ddim gr
ân?"
"Rhoi'r crys gora dros feia'r crys arall -
"plu cloman yn tyfu ar frân!"

 

"A be da chi'n fedwl o Rwsia?"
odd fy ngwestiwn i Wilias, un tro:
"Da chi'n meddwl fod rhyfel yn agos -
"fod na berig i'r Arth fynd o'i cho?"

"Mi dwi'n cofio", me Wilias (drwy ddagra)
"dy daid a dy ewyrth a fi
"yn denig yn hogia o'r ysgol
"drwy ffenast y lafatri:
"mi odd syrcas tu
nôl i West-fila
"a mwncwns a merchad crand
"ac andros o arth o Rwsia
"a thenti a Jyrman Band;
"mi odd stondin yn gwerthu cyflath
"a milodd o inja-rocs
"ac ufflwn o labwst gwallgo
"yn chwythu bygythion o focs".

"Ond ia, rhen Wilias, rhen ffrindia -
"ond gofyn o'n i am  y B
êr..."
"Mi ddudai ti hyn - gnaf mewn difri -
"mi roist enw go smala ar arth:
"does dim byd dwy'n ei gofio'n gliriach
"na'i hogla - mi odd hwnnw'n warth!
"Ac os byth fydd na ryfal 'fo Rwsia
"fydd na'm gobaith - mi gymra fy llw -
"os da soldiws a byddin o arthod -
"dyna ddiwedd ar fama - na-pw!"

 

"Ydy petha 'di newid, rhen Wilias,
"ers pan oeddach chi'n dechra byw?"

"Chredai fawr", medd Wilias, mewn chwinciad,
"Rwbath debyg o hyd ydy Duw.
"A ma pobol yn dal rwbath debyg-
"yn chlota bob cyfla am drics;
"a'r gennod yn chlota am lancia,
"a'r hogia yn chlota am glics;
"Ma'r hen
fôr na yn dal yn go heli,
"a'r gwarthag o hyd ar Ben Garn,
"a hen enw'r dre yn Bwllheli -
"ond fod Robat yn nes at 'i Farn!"

 

Nodyn: Cân dafodiaith. Gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Rhydaman 1970. Beirniad: Dyfnallt Morgan. 'Cerdd gelfydd ei saerniaeth a chynnil ei mynegiant...Camp y bardd yw peri i ni adnabod 'Rhen Wilias, nid trwy ei ddisgrifio, ond trwy adael iddo siarad drosto'i hun.''