O Lyfrgell Owain Owain Owain y person; ei fywyd 1929 -1993 Y Dydd Olaf: un o lyfrau Owain Owain Y Tafod cyfarchion y nadolig: gan yr arlunydd Owain Owain dyfyniadau am Owain Owain
 


Saith Och

Gwyn fyd y dyn
anathronyddol,
a'i gredo pur
mai rhaw yw rhaw;
nis poenir fyth

gan 'fod' bodolaeth
na dwfn ddirgelwch
hanfod rhaw.

 

Gwyn fyd y dyn
sy'n gallu derbyn
yr hyn a wel
heb geisio praw;
heb holi dim
am lwyr realaeth
ei anathronol
briddllyd raw.

 

Dihalogedig
bridd daearol,
heb frychau
unrhyw Blaton gwych;
di-dderbyn-wyneb
briddlyd ddaear,
heb Ffurf
ond ffurf
y ffos a'r rhych.

 

Ond och! y gŵr
sy'n ceisio canfod
rhyw Raw sy'n sail
i rawiau'r byd;
sy'n ceisio Ffurf
ddi-ffurf, amorphws
di-bwys, di-drwch,
di-led, di-hyd.

 

Gwyn fyd y dyn
- ac felly bydded;
ond och! y gwr
- ac felly mae;
saith och, saith och,
saith och, fodd bynnag,
pan gais y naill

fyw credo'r llall.

 

Cyhoeddwyd yn Y Faner, 28 Tachwedd, 1968.